Canolfan y Mileniwm - cartref Gŵyl Womex
Bydd Twnel Hafren, sy’n rhan hanfodol o’r rheilffordd rhwng De Cymru a Llundain, ar gau adeg dau ddigwyddiad o bwys yng Nghaerdydd.

Bydd seremoni agoriadol Cwpan y Byd Rygbi’r Gyngrhair yn Stadiwm y Mileniwm a Gŵyl Gerddoriaeth y Byd WOMEX yng Nghanolfan y Mileniwm yn digwydd y penwythnos nesaf – ar yr union adeg y bydd y twnel ar gau ‘er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw angenrheidiol’ yn ôl Network Rail.

Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi beirniadu’r cynllun gan ddweud bod gan Network Rail ‘hanes o wneud hyn’.

Tra’n cael ei gyfweld ar raglen Sunday Politics, BBC Wales, dywedodd ei fod methu deall pam bod angen gwneud gwaith cynnal a chadw ar y twnel pan mae yna ddigwyddiadau o bwys yn cael eu cynnal yn y brifddinas.

Ychwanegodd ei fod yn poeni y bydd y cau yn achosi problemau i’r rhai sydd am deithio i Gaerdydd ar gyfer y digwyddiadau gan amharu ar ddelwedd byd-eang Cymru.

Fe wnaeth cau’r twnel yn 1999 achosi cryn broblemau i gefnogwyr oedd yn teithio o Gaerdydd ar gyfer y gêm rygbi ryngwladol rhwng Cymru a Lloegr yn Stadiwm Wembley yn Llundain.

Dywed Network Rail bod y gwaith yma ar y gweill ers dwy flynedd a’i fod wedi ei ohirio unwaith ar gyfer y gêm griced rhwng Lloegr ac Awstralia ym mis Medi.

Mae’r cwmni wedi addo i drefnwyr Cwpan y Byd Rygbi’r Undeb yn 2015 na fydd unrhyw waith all amharu ar y twrnamaint yn Stadiwm y Mileniwm ar y gweill adeg hynny.