Ni fydd dynion tân Cymru ar streic yfory, wedi i’r gweithredu gael ei ganslo heddiw.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cyhoeddi fod y streic diffoddwyr tân a oedd i fod i ddigwydd nos yfory wedi’i ganslo.
Mewn datganiad y prynhawn yma dywedodd Rod Hammerton, Is-Bennaeth Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru na fyddai’r diffoddwyr tân ar streic.
“Mae’r Gwasanaeth wedi cael ei hysbysu fod y cyfnod o streiciau oedd wedi’u trefnu ar gyfer ddydd Sadwrn 19fed Hydref rhwng 18.30-23.30yh nawr wedi’u canslo,” meddai’r datganiad.
“Rydym ni’n gobeithio fod hyn yn arwydd y bydd yr anghydfod rhwng Undeb y Frigâd Dân a’r Llywodraeth yn cael ei datrys.”
Mae’r anghydfod rhwng y ddwy ochr yn deillio o gynlluniau i ddiwygio’r Cynllun Pensiynau ar gyfer Diffoddwyr Tân.