Alwyn Gruffydd
Mae angen chwalu’r comisiwn sy’n ymchwilio i ddyfodol cynghorau sir yng Nghymru a chreu gweithgor newydd a fydd yn cynrychioli Cymru gyfan. Dyna yw barn y Cynghorydd Alwyn Gruffydd o Dremadog wrth drafod y gwaith o edrych ar gwtogi nifer y cynghorau sir yng Nghymru.

Fe ddaeth i’r amlwg fod pob un aelod o’r Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus yn byw neu’n gweithio ar hyd llwybr traffordd yr M4 yn ne Cymru. Yn ôl y Cynghorydd Gruffydd mae hi’n annheg fod cynrychiolwyr o’r de yn trefnu cynghorau’r gogledd.

“Mae’n rhaid i unrhyw gorff gynrychioli’r bobol” meddai.

“Ar y funud dim ond un neu ddau o’r comisiwn sydd hefo syniad o anghenion gogledd Cymru,” meddai Alwyn Gruffydd.”

Cyhoeddodd Carwyn Jones heddiw nad yw cynnal 22 o gynghorau sir yng Nghymru bellach yn “gredadwy”.

Arweiniad gwael

Yn gynharach eleni, fe wnaeth Carwyn Jones alw am ad-drefnu a thorri ar nifer y cynghorau sir i saith neu wyth ar batrwm tebyg i’r Byrddau Iechyd. Nod y Prif Weinidog yw amddiffyn y gwasanaethau cyhoeddus a gwella’u perfformiad yng nghanol pwysau ariannol.

Mae gwrthwynebiad cryf i’r cynlluniau a all weld ardaloedd fel Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy yn ymuno i greu un cyngor estynedig yn 2016.

“Mae’n colli holl ystyr cael llywodraeth leol ac os yw Carwyn Jones yn derbyn hyn, mae’n codi cwestiynau am ei arweiniad o hefyd,” meddai Alwyn Gruffydd.

“Nid yn unig fydd y cynghorau ar eu colled ond bydd y Parciau Cenedlaethol, a hyd yn oed dyfodol y Gymraeg yn dioddef.”

Mae golwg360 wedi gofyn i’r Llywodraeth am ymateb.