Mae dynes wedi cael ei charcharu am 18 mis wedi iddi ddwyn 905 o fagiau a phedwar pwrs dros gyfnod o 18 mis.
Cafodd Jayne Rand, 48, o Swindon ei harestio mewn siop yng Nghwmbrân yn Rhagfyr 2012 pan gafodd ei dal yn dwyn.
Credir iddi ddwyn gwerth dros £100,000 o fagiau gan gynllunwyr enwog fel Mulberry, Prada a Louis Vuitton. Roedd hi wedi gwerthu rhai o’r bagiau ar y wefan ocsiwn ebay.
“Siopleidr anarferol”
Dywedodd David Wooler o Wasanaeth Erlyn y Goron, Cymru ei bod hi’n “siopleidr anarferol o doreithiog” ac yn gyfrifol am nifer fawr o achosion dros gyfnod hir.
Meddai: “Cafodd ei dal yn y diwedd diolch i staff siop House of Fraser yng Nghwmbrân. Pan wnaeth yr heddlu chwilio ei char a chartref daeth maint ei gweithgareddau troseddol yn amlwg yn gyflym.
Meddai Rhodri Parry, yr heddwas oedd ynghlwm a’r achos o Heddlu Gwent: “Mae Heddlu Gwent, drwy Ymgyrch Arcade, yn gweithio’n agos gyda siopau a staff diogelwch i dargedu siopladron.
“Byddwn yn parhau i wneud hynny gan fod y math hwn o drosedd yn aml iawn yn arwain at droseddu pellach.
“Rydym yn falch bod yr unigolyn sy’n gyfrifol wedi cael ei dedfrydu am ei throseddau. Bydd hi nawr yn destun ymchwiliad i’r elw wnaeth hi o’i throseddau.”