Mae rhywun wedi ei ladd mewn tân yn Aberdâr yn gynnar y bore yma

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i ddelio gyda’r tân mewn tŷ am 07:38 ac roedd adroddiadau bod rhywun yn gaeth y tu mewn i’r adeilad.

Erbyn i’r diffoddwyr tân gyrraedd, roedd y tŷ yn wenfflam.

Dywedodd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Andy Thomas bod unigolyn wedi marw yn y tân “er gwaethaf ymdrechion aruthrol y diffoddwyr tân”.

Mae achos y tân yn dal i fod o dan ymchwiliad ar y cyd gan y tîm ymchwilio’r Gwasanaeth Tân ac Achub a’r Heddlu.