Y Cynghorydd Sion Jones
Mae Cynghorydd Llafur yng Ngwynedd wedi galw ar y cyngor i ostwng pris mynediad i ganolfannau hamdden y sir – ar gyfer staff y cyngor yn unig.
Yn ôl y Cynghorydd Sion Jones, sy’n cynrychioli ward Bethel, mae pryderon wedi bod am ddyfodol gwasanaethau fel canolfannau hamdden a llyfrgelloedd yn dilyn y toriadau diweddar o 4.1% i gyllid Cyngor Gwynedd.
Ei syniad yw annog mwy o weithwyr y cyngor ei hun i ddefnyddio’r cyfleusterau, trwy roi disgownt iddyn nhw.
Targedu 6,000 o staff
Mae’n cynnig rhoi gostyngiad i tua 6,000 o staff y cyngor i ddefnyddio’r canolfannau yn rhatach, er mwyn eu hannog i ddefnyddio’r cyfleusterau a chynyddu’r refeniw.
Meddai Sion Jones: “Rwyf wedi siarad â llawer o aelodau staff Cyngor Gwynedd ac mae nifer fawr ohonyn nhw’n defnyddio canolfannau hamdden preifat a gyms gwahanol ar draws Gwynedd.
“Dw i’n cynnig bod angen cyflwyno gostyngiad i’r miloedd o staff sy’n gweithio i Gyngor Gwynedd, gan fod llawer o wasanaethau preifat yn cynnig gostyngiad i weithwyr y sector gyhoeddus.”
Eisoes mae staff Cyngor Gwynedd yn mwynhau parcio am ddim ger y pencadlys yng Nghaernarfon, tra bo’r cyhoedd yn talu £7.50 i barcio am bedair awr neu fwy ym meysydd parcio’r dref.