Bydd ardaloedd gwledig yn cael gostyngiadau o bump ceiniog ar betrol os bydd cynlluniau Llywodraeth Prydain yn dwyn ffrwyth.

Mae cais wedi ei roi i’r Comisiwn Ewropeaidd i leihau costau petrol mewn deg o drefi, gan eu bod dros 100 milltir i ffwrdd o’r burfa betrol agosaf ac hefo poblogaeth o lai na 135 o bobol am bob milltir sgwâr.

“Fel rhywun sy’n byw yn Ucheldir yr Alban, dw i’n gwybod fod prisiau petrol yn dueddol o fod uchaf mewn ardaloedd lle mae’r angen mwyaf am gar,” meddai Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander.

Mae ynysoedd Yr Alban, Sicilly yn Yr Eidal ac ynysoedd eraill yn Ewrop yn derbyn gostyngiadau yn barod ac mae Danny Alexander wedi ceisio dod o hyd i’r “dystiolaeth gryfaf bosib i sicrhau fod mwy o lefydd yn cael budd o’r cynllun”.

Y pentrefi sydd am gael eu hystyried

Yr Alban:

  • Acharacle
  • Achnasheen
  • Carrbridge
  • Dalwhinnie, Gairloch

Lloegr:

  • Hawes, Swydd Efrog
  • Kirkby-in-Furness, Cymbriaidd
  • Lynton, Dyfnaint
  • Strathpeffer