Mae undeb Unsain wedi ymosod ar Lywodraeth Prydain yn dilyn y toriadau diweddaraf i gynghorau sir.
Cyhoeddodd Llywdoraeth Cymru yn gynharach yr wythnos hon y bydd cynghorau lleol yn derbyn rhwng 1.2% a 4.6% yn llai yn eu cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae Trefnydd Rhanbarthol yr Undeb, Steve Belcher, wedi dweud bod y “neo Cons” dieflig y Blaid Geidwadol yn San Steffan, gyda chefnogaeth “eu gweision bach yn y Democratiaid Rhyddfrydol”, yn gyfrifol am yr ymosodiadau “mwyaf bwriadus a pharhaus a welodd y sector gyhoeddus erioed”.
Meddai Steve Belcher: “Mae parhau i ddweud eu bod nhw’n blaid i ‘bobl sy’n gweithio galed’ yn sarhad ar bawb sy’n cael trafferth i dalu eu biliau a bwydo eu teuluoedd.
“Dylai fod yn embaras cenedlaethol bod banciau bwyd yn cael eu sefydlu ym mhrifddinas Cymru gan nad yw’r ‘teuluoedd sy’n gweithio galed’, y mae Cameron yn smalio eu cefnogi, gyda digon o arian i fwydo eu plant.”
Yn ol ffigyrau diweddaraf roedd 32,500 o bobl yng Nghymru wedi derbyn pecynnau bwyd sy’n para tridiau gan Ymddiriedolaeth Trussell rhwng mis Ebrill a mis Medi eleni.
Dywedodd Steve Belcher y byddai Unsain yn gwrthwynebu unrhyw ymgais i ddiswyddo eu haelodau’n orfodol neu i brefateiddio’r swyddi hynny.
“Os yw miloedd o weithwyr y sector cyhoeddus yn colli eu gwaith, bydd hynny’n ateb tymor byr i broblem hir dymor,” meddai.
“Os yw’r bobl yma allan o waith, fyddan nhw’n methu talu treth, yn hawlio budd-daliadau a byddan nhw ddim yn gwario mewn siopau, bariau a bwytai fydd yn yn cael effaith drychinebus ar yr economi leol.”