Mae gwefan gymdeithasol Facebook wedi ei beirniadu ers cyhoeddi ei bod am ganiatáu i bobol ifanc gadw cyfrifon sy’n ‘agored’ i bawb eu gweld.

Cyn y newid yma nid oedd modd i bobol allu gweld cyfrifon facebook plant 13-17 oed, oni bai eu bod wedi eu derbyn yn ‘ffrindiau’.

Mae arbenigwyr diogelwch y rhyngrwyd wedi rhybuddio fod hyn am gynyddu bwlio ar y We ymysg pobol ifanc.

Ym Mhrydain mae dros 30 miliwn yn defnyddio facebook ac mae’r cwmni yn dadlau fod y rheol newydd am “roi mwy o ddewis i’r bobol ifanc sydd hefo cyfrif”.

Dewis anghywir

Dywedodd Anthony Smythe, Rheolwr elusen BeatBullying wrth y Times:

“Dyma’r dewis anghywir. Gall bobol ifanc ddweud pethau heb sylweddoli fod oblygiadau peryglus i beth maen nhw’n ei ddweud.”

Mae facebook wedi dweud fod cyfrifon gwreiddiol y bobol ifanc o dan 18 am gael eu gwneud yn breifat, ond fod posib newid hynny wedyn.

“Rydym yn meddwl o ddifrif am ddiogelwch pobol ifanc, a bydd nodyn i’w hatgoffa cyn iddyn nhw allu newid eu cyfrif yn un agored,” meddai llefarydd facebook.