Yn ein eitem wythnosol newydd, bydd golwg360 yn rhoi sylw i dîm chwaraeon lleol, gan ddod i adnabod rhai o’r cymeriadau ac edrych ymlaen i’w gêm ar y penwythnos. Yr wythnos hon pêl-droedwyr Llanrug sy’n hawlio’r sylw wrth iddyn nhw herio Dinbych.

Proffil y Clwb

Enw: Clwb Pêl-droed Llanrug

Ffurfiwyd: 1922

Cae: Eithin Duon

Lliwiau: Coch a Gwyn

Rheolwr y Tîm: Aled Owen

Is-Reolwyr: Kevin Owen & Mark Jat

Ar ôl i ‘Tîm yr Wythnos’ golwg360 gychwyn ym Mhontypridd yr wythnos ddiwethaf, tro’r pêl-droedwyr o’r gogledd yw hi’r wythnos hon gyda CPD Llanrug, ychydig filltiroedd o Gaernarfon.

Mae’r tîm, sydd bellach o dan reolaeth Aled Owen, wedi bod yn chwarae’n gyson yng Nghynghrair y Lock Stock Welsh Alliance dros y blynyddoedd diwethaf, gan orffen yn bumed yn y tabl y llynedd.

Ac maen nhw wedi dechrau’n dda y tymor hwn hefyd ac yn y pedwerydd safle ar hyn o bryd gyda phum buddugoliaeth o’u naw gêm gynghrair.

Her fawr heno

Does dim yn fwy heriol i dîm mewn unrhyw Gynghrair na theithio i wynebu’r rheiny sydd ar frig eu tabl, a dyna’n union fydd Llanrug yn ei wneud heno.

Clwb Tref Dinbych ydi’r gwrthwynebwyr, tîm sydd ar frig y Welsh Alliance ar hyn o bryd gydag wyth buddugoliaeth mewn wyth gêm.

Ond ydi’r sialens ddim i’w weld yn poeni chwaraewyr Llanrug yn ormodol – dyma’r cip gafodd golwg360 ar eu hymarfer yr wythnos yma, gan gyfarfod rhai o gymeriadau lliwgar y tîm!

Ac fe fydd Llanrug yn hyderus o allu cael canlyniad heno, gan eu bod hwythau ar rediad da o gemau ar ôl ennill chwe gêm o’u saith diwethaf yn y gynghrair a’r gwpan.

A’r newyddion da arall i Lanrug ydy eu bod yn uwch yn y tabl na’u prif elynion CPD Llanberis, sy’n 11fed (ia – y rheiny o Glwb Pêl-droed Malcolm Allen!).

‘Y Bos’

Fe fydd gêm heno’n un heriol, yn ôl y rheolwr Aled Owen, cyn-gapten CPD Porthmadog sydd bellach yn ei nawfed blwyddyn gyda Llanrug.

“Ma’ gan Dinbych record gant y cant felly fydd hi’n gêm fawr i ni,” meddai Aled Owen.

“Ond fe aethon ni yna a churo nhw ddwywaith tymor dwytha’, unwaith yn y gynghrair ac unwaith yn y gwpan – mae eu cae nhw’n siwtio ni’n dda am ei fod o’n reit fawr, a rydan ni’n dîm sy’n licio’i symud hi o gwmpas a chwarae pêl-droed.”

Ac mae Aled Owen i’w weld yn mwynhau’r sialens o gadw hogia’ Llanrug mewn trefn.

“Ma’r grŵp o hogia yma yn reit dda i’w rheoli, chwarae teg – ma yna rai sy’n fwy o sialens i’w rheoli na’i gilydd, ond dw i ddim am ddeud pa rai!”

Gornest gofiadwy

Yn ôl Aled Owen, ei gêm fwyaf cofiadwy yn ystod ei gyfnod gyda’r clwb oedd herio Llanelli yng Nghwpan Cymru, pan gollodd Llanrug 5-3. Ac mae’n dal i fwynhau’r her o reoli.

“Yndw, dw i’n mwynhau’r swydd,” meddai Aled Owen. “Wel, rhan fwya’ o’r amsar!”

Fe fydd golwg360 yn adrodd ar ganlyniad y gêm fawr heno.

Carfan Llanrug:

Gôl: Neil Perkins, Dylan Roberts

Amddiffyn: Terry Jones, Darren Phillips, Eifion Williams, Thomas Williams, Jonathan Peris Jones

Canol cae: Andrew Garlick, Carl Griffiths, Dylan Owen, Matthew Phillips, Andrew Williams, David Noel Williams, Marvin Pritchard

Ymosod: Gerad Laidlaw, Kevin Lloyd, Jamie Whitmore, Sam Williams, Rhys Roberts