Ar ôl gorffen eu hymgyrch Cwpan y Byd gyda pherfformiadau da, bydd pod pêl-droed Golwg360 yn edrych nôl ar wythnos o bêl-droed rhyngwladol i Gymru.
Owain Schiavone, Rhys Jones ac Iolo Cheung sydd yn rhoi sylw i berfformiad Cymru yn y ddwy gêm, y chwaraewyr a ddisgleiriodd, a dyfodol y rheolwr Chris Coleman.
Mae’r tri hefyd yn trafod ymddangosiad Harry Wilson, tîm dan-21 Cymru a helynt clwb Caerdydd dros yr wythnos diwethaf.
Ac yn dilyn buddugoliaeth i ‘Dîm yr Wythnos’ cyntaf Golwg360, Clwb Rygbi Pontypridd, y penwythnos diwethaf, Clwb Pêl-droed Llanrug sy’n hawlio’r sylw’r wythnos yma wrth iddyn nhw herio Dinbych yn y Welsh Alliance.