Stadiwm Liberty
Mae Abertawe yn obeithiol y bydd yr amddiffynnwr Ben Davies yn dychwelyd i’r Liberty ddydd Sadwrn i herio Sunderland ond mae yna amheuon ynglŷn â chapten yr Elyrch Ashley Williams sydd yn dal i wella o anaf i’w bigwrn.

Ar hyn o bryd does dim sicrwydd am bresenoldeb y ddau ar faes y Liberty ddydd Sadwrn, ond Davies sydd fwyaf tebygol i ddychwelyd wedi iddo wella o anaf i linyn y gar.

Mae Abertawe yn ffyddiog y bydd Davies yn dychwelyd i ymarfer ac yn debygol o ddechrau yn erbyn Sunderland.  Yn ogystal mae disgwyl i Garry Monk dychwelyd i ymarfer wedi iddo anafu ei ben-glin yn ystod y gem yn erbyn Birmingham yng nghystadleuaeth Cwpan y Capital One.

Mae disgwyl i Jonathan de Guzman a Pablo Hernandez ddychwelyd i herio Sunderland ddydd Sadwrn.