Fe ddylai nifer Aelodau Cynulliad gynyddu o 60 i 100 yn ôl adroddiad newydd sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.
Mae’r adroddiad ‘Mae Maint yn Cyfri’ wedi cael ei ysgrifennu ar y cyd rhwng Undeb Sy’n Newid a Chymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru.
Yn ôl yr adroddiad nid oes digon o feincwyr cefn i graffu ar ddeddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Mae’n dadlau bod nifer yr ACau yn fach iawn o’i gymharu â chyrff eraill ar draws y byd.
Ar hyn o bryd 42 o aelodau’r meinciau cefn sy’n craffu ar waith y Llywodraeth ym Mae Caerdydd o’i gymharu â 113 yn Senedd yr Alban, 108 yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon a 522 yn San Steffan.
Yn ôl yr adroddiad, dyw’r aelodau ddim yn “cael digon o amser i ddarllen dogfennau cyn cyfarfodydd heb sôn am feddwl amdanyn nhw yn briodol.”
Mae hefyd yn dweud y dylid ystyried torri nifer yr Aelodau Seneddol a chynghorwyr yng Nghymru i dalu am y 40 Aelod Cynulliad ychwanegol. Amcangyfrif y byddai’n costio £10.1m y flwyddyn.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwrthod galwadau i gynyddu nifer yr ACau i 80 gan ddweud nad yw’r cyhoedd am gael rhagor o wleidyddion.
Ond er bod cadeirydd prosiect Undeb Sy’n Newid, yr Athro Richard Wyn Jones, yn cyfaddef ei fod yn anodd gwneud yr achos ar gyfer cael mwy o wleidyddion, mae’n credu bod cael mwy o ACau yn hanfodol i sicrhau llywodraeth sy’n effeithiol a chost effeithiol.
“Nawr yw’r amser i gael dadl aeddfed wedi ei seilio ar dystiolaeth ar gyfer cynyddu maint Cynulliad Cenedlaethol Cymru.”
“Efallai nad yw’n beth poblogaidd i’w gyfaddef, ond mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn amlwg yn rhy fach i wneud ei swyddogaeth yn effeithiol.”