Bethan Jenkins
Fe fydd bil a fyddai’n ceisio gwella addysg ariannol mewn ysgolion yng Nghymru er mwyn mynd i’r afael a chwmnïau benthyciadau arian diwrnod cyflog yn cael ei drafod am y tro cyntaf yn y Cynulliad heddiw.
Fe fyddai’r Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol sy’n cael ei gynnig gan AC Plaid Cymru, Bethan Jenkins, yn gweld awdurdodau addysg yn dysgu addysg ariannol fel rhan o gwricwlwm ysgolion. Fe fyddai hefyd yn gwneud yn siŵr bod cynghorau yn cynnig cyngor ariannol i’r rhai sydd ei angen.
Fe fydd y mesur preifat yn cael ei drafod gan ACau cyn iddyn nhw benderfynu a ddylai gael ei ystyried ymhellach.
Mae’r bil arfaethedig wedi ei groesawu gan nifer o sefydliadau gan gynnwys Shelter Cymru, Age Cymru, Cyngor Abertawe a Chartrefi Cymunedol Cymru.
Dywed Bethan Jenkins ei bod yn credu bod angen deddfwriaeth i helpu pobl fel nad ydyn nhw yn mynd i ddyled am gyfnodau hir.
“Yng Nghymru, mae rheidrwydd ar ysgolion eisoes i ddarparu addysg ariannol. Er bod y cyrsiau hyn wedi eu cynllunio’n dda a’u darparu yn gydwybodol, fy mhryder i – o siarad â mudiadau a phobl mewn dyled – yw a ydyn nhw’n gyfredol,” meddai.
“Rwy’n credu fod angen i ni wneud dau beth. Yn gyntaf, rhaid i ni wreiddio addysg ariannol yn ddyfnach o lawer yn y cwricwlwm, fel y daw’n naturiol i ddisgyblion a myfyrwyr.
“Yn ail, mae llawer o waith da’n cael ei wneud gan awdurdodau lleol – gyda chefnogaeth y trydydd sector ac elusennau – i helpu pobl sydd mewn dyled.
“Ond maen nhw’n dweud wrtha’i am eu rhwystredigaeth mai dim ond hyn a hyn y gallan nhw wneud i fynd i’r afael a benthycwyr sy’n codi llog uchel a phobl sy’n ffonio ac yn plagio eu tenantiaid. Fe fuasen nhw’n croesawu mwy o bwerau i gymryd camau i atal hyn rhag digwydd.
“Rwy’n gweld y bil hwn fel ffordd o gychwyn dadl ehangach am reoli dyled yn ein cymdeithas, ac yr wyf yn credu y bydd deddfwriaeth fydd yn helpu i ddiweddu’r problemau yn well o gael cyfraniadau gan bawb.”