Mae panel annibynnol wedi argymell y dylid codi cyflogau sylfaenol Cynghorwyr Sir yng Nghymru.
Yn eu hadroddiad blynyddol a gyhoeddwyd heddiw, awgrymodd y Panel y dylid talu £125 yn fwy i bob aelod, sef codiad o £13,175 i £13,300 ar gyfer y flwyddyn 2014/15.
Mae hyn yn dod ddyddiau wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd toriadau sylweddol yn cael eu gwneud i gyllid cynghorau sir yng Nghymru’r flwyddyn nesaf.
Eisoes bu son am gau canolfannau hamdden a llyfrgelloedd cyhoeddus.
“Cynnydd bychan”
Roedd yr awgrym i dalu mwy i gynghorwyr yn un o nifer a wnaed yn adroddiad Panel Tâl Annibynnol Cymru, a ddisgrifiodd y cynnydd fel un bychan.
Yn yr adroddiad, roedd cydnabyddiaeth fod tâl gweithwyr sector gyhoeddus wedi’u rhewi dros y dair blynedd diwethaf, ond eu bod nhw nawr yn teimlo fod codiad cyflog o llai na 1% i gynghorwyr sir yn briodol.
Dywedodd y Panel y byddai hyn yn atal “erydiad yn y lefelau cymharol o dâl sylfaenol, mewn cydnabyddiaeth o’r dyletswyddau a ddisgwylir gan bob aelod etholedig”.
Mae’r adroddiad llawn i gael fan hyn: http://wales.gov.uk/docs/dsjlg/publications/131001draftannreport1415en.pdf