Cipiodd Llafur sedd oddi wrth yr SNP ar Gyngor Dinas Glasgow mewn isetholiad ddoe.

Daeth yr ornest bythefnos cyn isetholiad arall i benderfynu ar Aelod Senedd yr Alban dros  Dunfermline.

Roedd y canlyniad neithiwr yn siomedig i’r SNP sydd wedi cael rhediad o ganlyniadau tebyg ers cyhoeddiad refferendwm dros annibyniaeth i’r Alban flwyddyn yn ôl.