Cafodd gwobr BAFTA ei rhoi i’r rhaglen anghywir yn seremoni wobrwyo BAFTA Cymru nos Sul.

Cafodd y wobr am y Darllediad Newyddion Gorau ei gyflwyno ar y noson i Newyddion am raglen arbennig o’r Gemau Olympaidd ond dylai’r wobr fod wedi mynd i ITV Wales Tonight am eu darllediad nhw o ddiflaniad April Jones o’i chartref ym Machynlleth.

Yn ôl adroddiadau’r BBC mae BAFTA Cymru wedi ymddiheuro i’r BBC, ITV ac S4C ac yn dweud y byddan nhw’n cynnal adolygiad o’r drefn bleidleisio.

Cafodd y wobr ei chyflwyno’n swyddogol i Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni ITV Wales, y bore yma.

Dywedodd Cadeirydd BAFTA Cymru, Dewi Vaughan Owen bod y wobr wedi mynd i’r rhaglen anghywir oherwydd  camgymeriad clerigol.

“Fel Cadeirydd BAFTA Cymru rwyf wedi cael gwybod nad oedd y wobr a gyflwynwyd yn y categori Darllediad Newyddion yn ystod Gwobrau Academi Brydeinig Cymru nos Sul diwethaf yn adlewyrchu dewis y rheithgor ar gyfer y wobr.

“Mae BAFTA Cymru yna wedyn wedi hysbysu pob un o’r tri darlledwr ac rwyf wedi ymddiheuro’n ddiamod iddynt.

“Bydd BAFTA Cymru yn adolygu ei brosesau clerigol er mwyn sicrhau bod camgymeriadau o’r fath yn cael eu hosgoi yn y dyfodol.”