David Jones
Dylai’r Cynulliad weithio’n agosach gyda San Steffan er budd pobl Cymru meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru heddiw.
Roedd David Jones AS yn siarad yng Nghynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion pan ddywedodd mai Cymru yw rhan dlotaf y DU ond bod y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd yn gwneud dim i helpu’r sefyllfa.
Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru yn rhwystro ymdrechion i adeiladu mwy o dai er mwyn helpu pobl ifanc i brynu cartrefi tra dylen nhw edrych ar beth sy’n digwydd yr ochr draw i Glawdd Offa.
‘Her i Lywodraeth Cymru’
Meddai: “Felly, fy her i i Lywodraeth Cymru yw hyn – cymrwch gipolwg ar beth yr ydym ni’n ei wneud yn San Steffan.
“Meddyliwch am roi’r math o help llaw i brynwyr tai ifanc, uchelgeisiol yng Nghymru fel yr ydym ni’n ei roi i brynwyr tai ifanc yn Lloegr. Rhoi cynllun benthyciad ecwiti ar waith cyn gynted ag y bo modd. Torrwch y fiwrocratiaeth sy’n gwthio adeiladwyr allan o’r farchnad yng Nghymru.
“Defnyddiwch ddatganoli fel rhywbeth y gellir rhoi mantais gystadleuol i Gymru yn fyd-eang yn hytrach nag fel esgus i reoleiddio.
“A gweithiwch gyda ni i wneud Cymru yn le lle mae pobl sy’n gweithio’n galed yn fwy llewyrchus.”
Daeth sylwadau David Jones wrth i’r Prif Weinidog David Cameron baratoi i gyflwyno ei araith i gloi cynhadledd y Ceidwadwyr.
Mae disgwyl iddo amlinellu ei gynlluniau i wneud Prydain yn “wlad llawn cyfleoedd” gan bwysleisio nad yw elw, cyfoeth, torri trethi, a menter yn “eiriau budr”.