Mae’r elusen deithio gynaliadwy Sustrans Cymru wedi croesawu’r Mesur Teithio Llesol  a gafodd ei gymeradwyo yn unfrydol gan Aelodau’r Cynulliad neithiwr.

Bydd y mesur yn rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i gynllunio llwybrau cerdded a beicio ar draws Cymru yn ogystal ag annog eu defnydd. Nod y ddeddfwriaeth yw hybu pobl i ddefnyddio beic neu gerdded fel modd o drafnidiaeth yn hytrach na dibynnu ar eu ceir.

Mae Sustrans Cymru  wedi bod yn galw am ddeddfwriaeth o’r fath ers chwe blynedd.

‘Diwrnod hanesyddol’

Dywedodd y cyfarwyddwr cenedlaethol Jane Lorimer:  “Mae pasio’r ddeddfwriaeth yn dangos bod Llywodraeth Cymru o ddifrif  am wneud cerdded a beicio yn ddewis naturiol ar gyfer teithiau byr yn ddyddiol.”

“Nid  yn unig y byddwn yn lleihau’r tagfeydd yn ein trefi a’n dinasoedd, ond drwy gael mwy o bobl i gerdded a beicio cawn arbed degau o filiynau o bunnoedd i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru drwy fynd i afael ag afiechydon sydd yn cael eu hachosi gan ddiffyg ymarfer corff.

“Mae hyn yn ddiwrnod hanesyddol i Gymru – ni ddaw newid dros nos, ond mae’r fframwaith nawr mewn lle i’n gwneud yn genedl o feicwyr.”

Mi fydd y mesur  nawr yn mynd ymlaen i gael sêl bendith Brenhinol cyn iddo ddod yn ddeddf.