Bu’n rhaid i drigolion sy’n byw mewn stryd ym Mangor adael eu cartrefi ddoe oherwydd tân ar wifrau trydan tanddaearol.

Cafodd y gwasanaethau brys a pheirianwyr o Scottish Power eu galw i Stryd yr Allt tua 3:40yh brynhawn dydd Mawrth.

Cafodd trigolion Stryd yr Allt eu symud o’u cartrefi ac mae’n ymddangos fod strydoedd cyfagos wedi eu cae hefyd.

Llwyddodd y gwasanaeth tân i reoli’r fflamau  a chafodd y trigolion ddychwelyd i’w cartrefi erbyn 6yh.