Mae Arweinydd Cyngor Ceredigion, y cynghorydd Ellen ap Gwynn wedi awgrymu y gall cwmni bysys lleol gamu i’r adwy ar ôl i Arriva gyhoeddi ddoe eu bod nhw’n bwriadu torri gwasanaethau a chau pedwar safle yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.
Gall safleoedd y cwmni yn Aberystwyth, Cei Newydd, Llanbed a Dolgellau gau erbyn diwedd y flwyddyn o dan y cynlluniau yn dilyn cyfnod o ymgynghori gyda staff.
Fe allai hyd at 46 o bobl golli eu swyddi.
Mae’n ymddangos bod rheolwr cwmni Lloyds Coaches wedi dweud y gall eu cwmni gynnig y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan Arriva ar hyn o bryd.
‘Dim rhybudd’
Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, nad oedd y cyngor wedi cael gwybod am y newidiadau gan gwmni Arriva o flaen llaw.
“Daeth e-bost answyddogol atom ni a dywedodd fod Arriva am roi’r gorau i lwybrau pwysig rhwng Aberystwyth a Chaerdydd.
“Bydd hyn yn broblem fawr i fyfyrwyr sydd eisiau mynd yn ôl ac ymlaen gan mai hon yw’r unig lwybr fysiau sy’n cysylltu Aberystwyth a Chaerdydd.”
Mae Ellen ap Gwynn o’r farn fod cwmni Lloyds Coaches yn gweddu anghenion y bobol leol yn well.
“O’m mhrofiad i, ers i Lloyds Coaches gymryd drosodd y llwybrau lleol, dw i’n cael dim ond canmoliaeth amdanyn nhw,” meddai’r cynghorydd.
“Roedd nifer o gwynion am wasanaeth Arriva a bod eu gwasanaeth yn hwyr, neu ddim yn troi i fyny o gwbl.”
Ychwanegodd bod yn rhaid sicrhau fod safon y gwasanaeth bysiau yn gwella.
“Mae’n rhaid i’r Cynulliad edrych o ddifrif ar geisio cael gwasanaeth bysiau dibynadwy yng Nghymru,” meddai.