Mae rhai Aelodau Cynulliad wrth eu bodd yn trydar, eraill yn gwneud hynny bob hyn a hyn a rhai byth yn mentro.

Dyma ganlyniad ymchwil ar arferion trydar yr aelodau wnaed ar gyfer Ymgynghoriaeth Materion Cyhoeddus ‘Deryn’ sydd a’i bencadlys yng Nghaerdydd.

Yn ôl yr ymchwil, rhyw ddwsin o aelodau sy’n defnyddio trydar yn effeithiol er mwyn trafod materion polisi a gwleidyddol ac er mwyn mynegi eu personoliaeth.

Mae aelodau eraill yn defnyddio trydar fel swyddfa’r wasg tra bo eraill ddim yn gyfforddus yn trydaru a byth yn ei ddefnyddio i gysylltu efo newyddiadurwyr a’u etholwyr yn ôl canlyniadau’r ymchwil.

Patrwm

Carwyn Jones, Leighton Andrews a Leanne Wood sy’n trydar fwyaf.

Erbyn y penwythnos yma, Carwyn Jones oedd gan y nifer mwyaf o ddilynwyr ac roedd ar y blaen i Leighton Andrews gyda 9,177 o’i gymharu a 9,019.

Mae nifer Leighton Andrews wedi ei chwyddo am ei fod yn cymeryd rhan yng nghyfrif trydar WelshJamesBond.

Yr aelodau sydd heb fentro trydar o gwbl eto ydi Lindsay Whittle Plaid Cymru, Joyce Watson, Lynne Neagle a Gwyn Price, Llafur a’r Ceidwadwr Paul Davies.

Bethan Jenkins o Blaid Cymru sy’n trydar amlaf gan wneud hynny 28 gwaith y dydd ar gyfartaledd.

Yn ôl un o gyfarwyddwyr ‘Deryn’ does yna ddim cyswllt rhwng mwyafrif unrhyw aelod a’i arferion trydar.

“Mae’n bwysig nad yw’r ymchwil yma yn cael ei weld fel cystadleuaeth boblogrwydd, meddai Cathy Owens.

“Mae hyn (trydar) yn sianel gyfathrebu bwysig iawn a gall Aelodau Cynulliad adeiladu rhestr o bobl all dderbyn eu newyddion a’u barn trwy bwyso botwm yn yn unig.”