Fiona Bone a Nicola Hughes laddwyd ym Manceinion
Bydd gwasanaeth arbennig i gofio am swyddogion yr heddlu fu farw tra ar ddyletswydd yn cael ei gynnal yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd heddiw.

Dyma’r degfed gwasanaeth o’i fath a’r eildro i’r gwasanaeth gael ei gynnal yng Nghymru.

Cynhaliwyd y gwasanaeth yng Nghaerdydd hefyd yn 2009.

Bydd PC Andrew Duncan, laddwyd mewn gwrthdrawiad taro-a-ffoi yn Llundain wythnos yn ôl, a’r ddwy blismones Nicola Hughes a Fiona Bone, laddwyd mewn ymosodiad gwn a grenêd ym Manceinion fis Medi diwethaf, ymhlith y rhai fydd yn cael eu coffau.

Bydd llys-fam Nicola Hughes yn darllen un o’r gweddiau.

Y Tywysog Charles yw noddwr Diwrnod Cenedlaethol Coffau’r Heddlu ac fe fydd ef a’r Prif Weinidog Carwyn Jones, y Gweinidog Llywodraeth Leol Lesley Griffiths a’r Ysgrifennydd Cartref Teresa May yn y gynulleidfa.