Fe fydd undeb y gweithwyr prawf yng Nghymru a Lloegr yn gofyn barn ei aelodau ynglyn â’r posibilrwydd o streicio tros gynlluniau llywodraeth Prydain i breifateiddio’r gwasanaeth.
Mae Ian Lawrence, Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb Napo, yn mynd i gofrestru gwrthwynebiad ffurfiol i’r cynlluniau sydd ar droed i ffermio allan y rhan helaetha’ o’r gwasanaeth i gwmnïau preifat fel G4S a Serco.
Wedi i’r gwrthwynebiad ffurfiol gael ei nodi, fe fydd aelodau Napo sy’n gyflogedig gan y Gwasnaeth Prawf yng Nghymru a Lloegr, yn pleidleisio ar y syniad o fynd ar streic.