Bydd modd astudio elfennau o Feddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cyntaf eleni yn dilyn nawdd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Bydd rhannau o’r maes llafur yn cael eu cyflwyno gan Dr Heledd Iago ym Mhrifysgol Abertawe a Sara Whittam ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn ôl y Coleg mae’r penodiadau yma yn ymateb i’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr meddygol yng Nghymru.

Rhagor o benodiadau

Mae’r Coleg Cymreg Cenedlaethol yn bwriadu penodi 23 o ddarlithwyr dros y blynyddoedd nesaf trwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg.

Bydd y swyddi yn ychwanegol i’r 55 swydd newydd sydd wedi cael eu creu dan adain y Coleg ers ei sefydlu yn 2011.

Mae’r penodiadau eraill eleni ym maes Newyddiaduraeth yng Nghaerdydd, Cyfrifeg a Chyfrifiadureg ym Mangor a’r Gyfraith ym Mangor, Aberystwyth a Chaerdydd.

Bydd maes Gofal Iechyd yn cael blaenoriaeth yn y blynyddoedd nesaf oherwydd y galw am fwy o weithwyr dwyieithog ar draws Cymru.

Yn ôl Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

‘‘Roeddem yn falch o fedru penodi’r unigolion hyn dros yr haf ac yn dymuno’r gorau iddynt yn eu swyddi newydd. Mae ganddynt brofiad helaeth eisoes yn eu priod feysydd a bydd myfyrwyr yn elwa’n fawr o’u harbenigedd dros y blynyddoedd nesaf. Rwy’n edrych ymlaen at weld darpariaeth yn cael ei chreu o’r newydd yn y meysydd cyffrous hyn a chyfleoedd newydd ac ychwanegol i fyfyrwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.’’