Valencia 0–3 Abertawe

Cafodd Abertawe ddechrau cofiadwy i’w hymgyrch yng Ngrŵp A Cynghrair Ewropa gyda buddugoliaeth wych yn erbyn y cewri o Sbaen, Valencia, nos Iau.

Mae Stadiwm Mestalla yn Valencia yn cael ei ystyried yn un o gaeau pêl droed mwyaf swnllyd Ewrop ond dim ond lleisiau’r Cymry yn canu ‘Hymns and Arias’ oedd i’w clywed yn yr ail hanner wrth i’r Elyrch lwyr reoli yn erbyn deg dyn y tîm cartref.

Cerdyn Coch Cynnar

Bu rhaid i Valencia chwarae bron i gêm gyfan gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch i Adil Rami wedi dim ond deg munud. Lloriodd y Ffrancwr Wilfred Bony a barnodd y dyfarnwr mai ef oedd yr amddiffynnwr olaf cyn ei anfon o’r cae.

Manteisiodd Abertawe ar hyn yn syth wrth i Bony agor y sgorio bedwar munud yn ddiweddarach gydag ergyd gadarn i’r gornel uchaf yn dilyn pas gywir Miguel Michu iddo ar draws y cwrt cosbi.

Cafodd Nathan Dyer gyfle gwych i ddyblu’r fantais hanner ffordd trwy’r hanner ond anelodd yr asgellwr heibio’r postyn. Dim ond un gôl ynddi ar yr egwyl felly ond yr Elyrch yn rheoli.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ail hanner yn debyg iawn i’r cyntaf, gyda’r ymwelwyr o Gymru ar dân. Cafodd Bony gyfle da i ddyblu’r fantais ond peniodd heibio’r postyn, a saethodd Michu dros y trawst o ddeg llath.

Ond ni fu rhaid aros yn hir am yr ail gôl. Dechreuodd Abertawe’r gêm gyda chwe Sbaenwr ar y cae – dau yn fwy na’r tîm cartref – a dau o’r rheiny a gyfunodd ar gyfer yr ail. Gwrthymosododd yr Elyrch yn chwim a daeth pas wych Alejandro Pozuelo o hyd i Michu a churodd yntau Vicente Guaita ar ei bostyn agosaf.

Cwblhawyd y fuddugoliaeth gyda chic rydd ragorol Jonathan De Guzman toc wedi’r awr. Cafodd Pozuelo ei lorio ddeg llath ar hugain o’r gôl a chrymanodd De Guzman y bêl yn gelfydd i’r gornel uchaf.

Ychydig o gyfleoedd a gafodd y ddau dîm yn yr hanner awr olaf ond roedd Abertawe wedi gwneud hen ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth wych cyn hynny. 

.

Valencia

Tîm: Guaita, Rami, Barragan, Mathieu, Feghouli (Pabon 59′), Banega, Javi Fuego, Guardado, Canales (Bernat 66′), Fede (Costa 14′), Postiga

Cardiau Melyn: Fuego 45’, Banega 77’

Cerdyn Coch: Rami 10’

.

Abertawe

Tîm: Vorm, Amat, Chico, Tiendalli, Rangel (Davies 55′), Michu (Shelvey 76′), Dyer (Lamah 65′), De Guzman, Canas, Pozuelo, Bony

Goliau: Bony 14’, Michu 58’, De Guzman 62’

Cerdyn Melyn: Rangel 14’

.

Torf: 32,000