Mark Cavendish
Mae disgwyl i dyrfa fawr ymgasglu yng Nghaerffili prynhawn ‘ma wrth i’r seiclwyr sy’n cymryd rhan yn y Tour of Britain orffen pedwerydd cymal y ras yn y dref.

Dyma’r tro cyntaf i ddau gymal o’r ras ddod i Gymru.

Heddiw mae’r pumed cymal o’r ras yn mynd â’r seiclwyr o Fachynlleth ar daith 177.1 kilometr i Gaerffili trwy Raeadr, Llanelwedd, Aberhonddu a Merthyr Tudful.

Mark Cavendish enillodd y pedwerydd cymal ddydd Mercher pan deithiodd y cystadleuwyr 190.9 kilometr trwy Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Conwy cyn diweddu yn Llanberis.

Gorffennodd Owain Doull o Gaerdydd yn y chweched safle.

Ond enillydd Tour de France y llynedd a’r pencampwr Olympaidd, Syr Bradley Wiggins, oedd ar flaen y ras yn dilyn y pedwerydd cymal.

Mae’r ras yn cael ei darlledu’n fyw mewn 124 o wledydd tros y byd ac amcangyfrifir bod dros £3 miliwn ei ddwyn i mewn i’r economi leol yng Nghymru o ganlyniad i’r Tour of Britain llynedd.

Bydd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant a Chwaraeon, John Griffiths, ymysg y rheiny fydd yn croesawu’r beicwyr i Gaerffili brynhawn ‘ma.

Mae’r ras wyth cymal, 1,045km o hyd, yn gorffen yn Llundain ddydd Sul.