Michael Laudrup
Mae rheolwr clwb pêl droed Abertawe yn ffyddiog y gall yr Elyrch gael canlyniad da yn erbyn Valencia yng ngêm gynta’r clwb yn rownd y grwpiau yng Nghynghrair Ewropa heno.
Dywed Michael Laudrup mai Valencia yw’r “trydydd tîm gorau yn Sbaen” ond mae’n awyddus i’r Elyrch gymryd mantais o ddechreuad gwael Los Che yn La Liga eleni.
Mae Valencia yn yr 16eg safle yn y gynghrair wedi iddyn nhw golli 3-1 i Real Betis ddydd Sul.
Mae’r Elyrch hefyd wedi cael dechrau cymysg i’r tymor ond mae’r gêm gyfartal yn erbyn Lerpwl yn Stadiwm Liberty nos Lun yn golygu eu bod bellach wedi codi i’r 13eg safle.
“Mae Valencia yn dîm mawr yn Sbaen,” meddai Laudrup cyn y gêm fydd yn cael ei gynnal am 6yh yn Stadiwm Mestalla nos Iau.
“Rydw i’n sôn am y trydydd tîm gorau yn Sbaen ers nifer o flynyddoedd a dim ond Real Madrid a Barcelona sydd o’u blaenau.
“Ond maen nhw wedi cael dechrau sigledig iawn i’r tymor gan ennill dim ond un o’u pedair gêm gyntaf.
“Mae’n rhaid inni wneud ein gorau glas ac mae gennyn ni gyfle da.”
Ni fydd cyn chwaraewr canol cae Valencia Pablo Hernandez yn chwarae i’r Elyrch heno am ei fod wedi anafu llinyn y gar.
Ond dylai’r ymosodwr Wilfried Bony fod ar gael wedi iddo wella o anaf i’w asennau.
Mae Valencia wedi bod yn dîm llwyddiannus dros y degawd diwethaf gan ennill La Liga yn 2002 a 2004, ennill Cwpan UEFA yn 2004, a chyrraedd rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Ewrop yn 2000 a 2001.
“Mae dilynwyr Valencia yn gyfarwydd â llwyddiant ac maen nhw’n meddwl eu bod yn llawer gwell nag Abertawe,” meddai Laudrup a dreuliodd rhan helaeth o’i yrfa yn chwarae i Real Madrid a Barcelona.
“Ond efallai y gallwn ni gymryd mantais o’r sefyllfa,” ychwanegodd.
Curodd Abertawe Malmo o Sweden a Patrolau Ploiesti o Romania yn y rowndiau rhagbrofol i ennill yr hawl i herio Valencia, Kuban Krasnodar o Rwsia a St Gallen o’r Swistir yn grŵp A yng Nghynghrair Ewropa.