Mae disgwyl torfeydd mawr o amgylch y gogledd heddiw wrth i’r ras feic, Tour of Britain, ymweld â Chymru.

Dyma’r tro cyntaf i ddau gymal o’r ras ddod i Gymru ac ymysg y beicwyr fydd yn cymryd rhan fydd enillydd y Tour de France llynedd, Bradley Wiggins, a Mark Cavendish o Ynys Manaw.

Bydd y cymal heddiw yn dechrau yn Stoke on Trent a bydd rhaid i’r beicwyr deithio 190.9 kilometr trwy Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Conwy cyn diweddu yn Llanberis

Yna, yfory bydd y cymal yn mynd a’r seiclwyr o Fachynlleth ar daith 177.1 kilometr i Gaerffili trwy Raeadr, Llanelwedd, Aberhonddu a Merthyr Tudful.

Mae’r ras yn cael ei darlledu’n fyw mewn 124 o wledydd tros y byd ac amcangyfrifir bod dros £3 miliwn ei ddwyn i mewn i’r economi leol yng Nghymru o ganlyniad i’r Tour of Britain llynedd.

Bydd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant a Chwaraeon yn croesawu’r beicwyr i Gaerffili yfory.

Meddai John Griffith: “Mae beicio wedi dod yn boblogaidd iawn dros y blynyddoedd diwethaf gyda llwyddiant pobl fel Syr Bradley Wiggins a thalent Gymreig fel Nicole Cook, Geraint Thomas a Becky James.

“Rwy’ wrth fy modd y bydd y cyhoedd yng Nghymru yn cael cyfle i weld y beicwyr gorau yn agos a bod gennym y cyfle i arddangos rhannau prydferth o Gymru i’r byd.

“Rydym yn gwbl ymrwymedig i wneud Cymru yn genedl beicio lle bydd y beic yn cael ei weld fel dewis diogel, iach a realistig yn lle’r car ar gyfer teithiau byr bob dydd.”

Syr Hugh Owen yn llenwi bws i Lanberis

Mae llond bws o ddisgyblion ac athrawon brwd yn gadael Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon pnawn heddiw i groesawu’r Tour of Britain yn Llanberis.

“Mae o’n dipyn o achlysur ac mae diddordeb mawr gan yr ysgol” meddai’r dirprwy bennaeth, Robin Humphries.

“Mae’r adran addysg gorfforol wedi trefnu i ymhell dros 50 o ddisgyblion o bob oedran gael y cyfle i fynd draw i Lanberis.”