Gateshead 0–3 Wrecsam
Sicrhaodd Wrecsam ail fuddugoliaeth mewn wythnos gyda thair gôl mewn chwarter awr oddi cartref yn Gateshead nos Fawrth.
Yn dilyn dechrau siomedig i’w tymor yn Uwch Gynghrair Skrill mae’r Dreigiau wedi gwella’n ddiweddar gan guro Luton nos Wener cyn y fuddugoliaeth gyfforddus hon yn Stadiwm Rhyngwladol Gateshead.
Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr fe aeth yr ymwelwyr o ogledd Cymru ar y blaen wedi deg munud o’r ail gyfnod pan beniodd Brett Ormerod groesiad Jay Harris i gefn y rhwyd.
Roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel ddeg munud yn ddiweddarach pan rwydodd yr amddiffynnwr, Steve Tommassen, yr ail.
Yna, bum munud wedi hynny rhoddwyd yr eisin ar y gacen pan beniodd Andy Bishop drydedd y Dreigiau.
Mae’r tri phwynt yn codi Wrecsam i’r pymthegfed safle yn nhabl y Gyngres.
.
Gateshead
Tîm: Bartlett, Magney, O’Brien, Curtis, Clark, Chandler, Turnbull, Walker (Cummins 25′), Larkin, Boyes (Maddison 62′), Brown
Cerdyn Melyn: Maddison 90’
.
Wrecsam
Tîm: Mayebi, Ashton, Tomassen, Ntame (Clowes 88′), Artell, Clarke, Harris, Hunt, Theo Bailey-Jones (Cieslewicz 64′), Bishop (Ogleby 81′), Ormerod
Goliau: Ormerod 55’, Tommassen 65’, Bishop 71’
.
Torf: 538