Mae tri o bobl wedi eu harestio yn ystod priodas sy’n cael ei hamau fod yn un ffug, yn ôl swyddogion y Swyddfa Gartref.

Cafodd y seremoni yng Nghaerfyrddin ei hatal gan blismyn cyn i ddyn 31 oed o Ghana briodi menyw 25 oed o’r Deyrnas Unedig.

Yn dilyn ymchwiliad gan y Swyddfa Gartref darganfuwyd bod y dyn wedi bod yn byw yn y DU yn anghyfreithlon ac roedd disgwyl iddo gael ei anfon o’r wlad.

Cafodd dau o’r gwesteion, dyn 27 oed a dyn 28 oed, sydd hefyd yn dod o Ghana, eu harestio yn ystod y seremoni yn y swyddfa gofrestru ar amheuaeth o aros yn y DU heb fisa.

Cafod y briodferch ei holi gan yr heddlu cyn cael ei rhyddhau.

Dywedodd Andrew Hogan, o adran weithredu mewnfudo’r Swyddfa Gartref fod yr asiantaeth yn cydweithio â chofrestrwyr i atal priodasau a phartneriaethau sifil ffug.

“Pan mae amheuaeth ynghylch dilysrwydd perthynas fe fyddwn ni’n ymchwilio, ac os oes angen, ymyrryd i atal y briodas,” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref fod priodas ffug neu bartneriaeth sifil ffug ‘fel arfer’ yn digwydd pan mae rhywun y tu allan i Ewrop yn priodi rhywun er mwyn aros am gyfnod hir yn y DU gan ennill yr hawl i weithio a hawlio budd-daliadau.