Mae crwner wedi cyhoeddi rheithfarn naratif yn achos marwolaeth dyn ifanc oedd yn aelod o’r Llu Awyr a gafodd ei ladd gan gwch cyflym yn Cyprus dair blynedd yn ôl.

Dywedodd y crwner, Nicola Jones, yn y cwest yn Llandudno bod Scott Hughes, 20, o’r Felinheli, wedi marw o ganlyniad i “fethiant llwyr” systemau diogelwch y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mae ei fam wedi beirniadu’r Weinyddiaeth Amddiffyn am “fethu’n llwyr” i ddiogelu ei mab.

Roedd Scott Hughes newydd ddychwelyd ar ôl treulio 6 mis yn Afghanistan yn 2010 ac yn ymlacio ar Ynys Cyprus gyda’i gydweithwyr cyn dychwelyd adref. Roedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon dwr  ar draeth yn Episkopi, pan gafodd ei daro gan gwch cyflym.

Fe ddioddefodd anafiadau difrifol i’w ben.

Bu farw Scott Hughes yn Ysbyty Cyffredinol Limassol deuddydd yn ddiweddarach.

Wrth ymateb i’r rheithfarn, dywedodd teulu Scott Hughes bod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi  methu ei warchod a’u bod yn bwriadu dwyn achos cyfreithiol yn eu herbyn.

Dywedodd mam Scott Hughes, Emma Hughes, bod ei mab wedi bod yn barod i beryglu ei fywyd dros ei wlad ac yn hynny o beth, dros ei gyflogwr. Meddai,

“Daeth bywyd Scott ynghyd â’i yrfa gyda’r Awyrlu i ben yn gynamserol oherwydd methiannau’r Weinyddiaeth Amddiffyn, sydd wedi ei nodi yn y cwest. Fe wasanaethodd Scott ei wlad gyda balchder a braint. Mae methiant y Weinyddiaeth Amddiffyn i’n cefnogi ni wedi ychwanegu at ein galar ond rydym yn falch bod y gwir wedi dod allan.”

Ychwanegodd Mark McGhee o Gyfreithwyr Fentons, sy’n cynrychioli teulu Scott Hughes, “Yn dilyn y dyfarniad heddiw byddwn yn dwyn achos sifil sylweddol yn erbyn y Weinyddiaeth Amddiffyn.”