Mae dyn sy’n wynebu tri chyhuddiad o geisio llofruddio wedi ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos o flaen llys yng Nghwmbrân heddiw.
Bydd Brogan Joseph Hooper, 20, yn ymddangos o flaen Llys y Goron Casnewydd ar Fedi 26 ar ôl ei ymddangosiad heddiw.
Mae’r cyhuddiad yn deillio o ddamwain ar Ffordd Cas-gwent yng Nghasnewydd toc wedi 11.30yh ar Fedi 3 pan gafodd tri pherson eu cludo i’r ysbyty. Dywed Heddlu Gwent bod gwn wedi cael ei danio o un cerbyd at gerbyd arall.
Mae Lewis Bridge, 22, o Gasnewydd eisoes wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio ac mae pedwar dyn arall wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau yn parhau.
Nid yw’r heddlu wedi dod o hyd i’r gwn a gafodd ei ddefnyddio yn y digwyddiad ac maen nhw’n parhau i chwilio am y cerbyd 4×4 tywyll a gafodd ei weld yn gyrru i gyfeiriad Ffordd Beechwood.
Mae’r heddlu’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Tacle’n ddienw ar 0800 555 111.