Mae cwest yng Nghasnewydd wedi clywed bod dynes oedrannus wedi marw ar ôl disgyn oddi ar ei beic wedi iddi daro twll yn y ffordd.

Clywodd Llys y Crwner yng Nghasnewydd bod Valerie Cadogan, 72, wedi bod yn seiclo gyda’i gŵr pan darodd y twll yn y ffordd yn Nhrefynwy fis Ebrill eleni.

Cafodd ei chludo mewn hofrennydd  i Ysbyty Frenchay ym Mryste ond bu farw o anafiadau i’w phen ddiwrnod ar ôl y digwyddiad.

Dywedodd y Crwner, David Bowen wrth golwg360, y byddai anafiadau Valerie Cadogan wedi bod yn llai difrifol petai wedi bod yn gwisgo helmed ond na fyddai’n gallu dweud a  fyddai hi wedi goroesi petai’n gwisgo un.

Clywodd y crwner bod Cyngor Sir Mynwy wedi llenwi’r tyllau yn y ffordd oriau’n unig ar ôl y ddamwain a’u bod yn archwilio’r ffordd yn flynyddol.