Bydd Ymgyrch Trebiwt a Grangetown (TAG) yn cynnal rali yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn er mwyn rhoi pwysau ar Gyngor Caerdydd i sefydlu ysgol Gymraeg newydd yn yr ardal.

Er bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi sêl bendith a chyllid i’r cynllun i godi ysgol newydd yn Grangetown, mae’r cyngor yn ymgynghori ar gynlluniau i ymestyn Ysgol Pwll Coch, yn Nhreganna. Dywed ymgyrchwyr nad oes lle i ehangu ar y safle.

Sioned Mills, rhiant lleol ac un o Is-gadeiryddion yr ymgyrch, fydd yn cyflwyno’r rali. Bydd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood AC; Ben Fodey, cyn-gynghorydd sy’n byw yn Nhrebiwt; y Cynghorydd Judith Woodman a’r Cynghorydd Neil McEvoy yn annerch y rali.

‘Carreg filltir’

Dywedodd Dr Dyfed Wyn Huws, cyd-gadeirydd yr ymgyrch: “Mae’r rali hon yn garreg filltir nodedig yn yr ymgyrch ac yn gyfle i fynegi’r cryfder teimlad o blaid sefydlu ysgol Gymraeg yn Grangetown.

“Yr hyn sy’n galonogol yw bod yr ymgyrch wedi mynd o nerth i nerth, ac mewn cyfnod byr o amser, wedi ennill cefnogaeth nid yn unig o fewn y gymuned leol yn Grangetown ond ledled Caerdydd a thu hwnt.”

Ychwanegodd Jo Beavan Matcher, cyd-gadeirydd TAG: “Ffaith syfrdanol yw bod plant o gefndiroedd lleiafrifol ethnig Trebiwt, ar hyn o bryd yn gorfod teithio i Benarth er mwyn derbyn addysg Gymraeg, gan mai dyma’r ddarpariaeth agosaf i’w cartrefi. Nid oes modd cyfiawnhau sefyllfa o’r fath.

“Ein gobaith yw bydd y rali’n hwb pellach tuag at ddarbwyllo’r cyngor i weithredu’n gadarnhaol dros blant a theuluoedd Grangetown a Threbiwt, gan sicrhau nad opsiwn i’r lleiafrif yw addysg Gymraeg ond dewis gwirioneddol i’r mwyafrif.”

Bydd y rali’n cael ei chynnal o flaen Neuadd y Ddinas ym Mharc Cathays, Caerdydd ddydd Sadwrn, Medi 21 am 11yb.