Dug Caergrawnt
Mae’n ymddangos bod bron i dri chant o gŵn a fu’n gwasanaethu’r fyddin wedi cael eu difa yn y tair blynedd ddiwethaf, gan gynnwys dau gi a fu’n gwarchod Dug Caergrawnt tra bu’n gwasanaethu ar Ynys Môn.

Mae adroddiadau gan bapur newydd y Sun yn honni bod dau gi wedi cael eu difa ddyddiau yn unig ar ôl i’r Tywysog William orffen ei gyfnod fel peilot hofrennydd yng Nghanolfan yr Awyrlu yn y Fali.

Cafodd 81 o gŵn eu difa oherwydd eu bod wedi mynd yn rhy hen, 61 oherwydd eu bod yn dioddef o glefyd y cymalau a 33 oherwydd eu bod yn beryglus.

Dywedodd llefarydd  ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn, “Mae’r penderfyniad i ddifa’r rhan fwyaf o’r cŵn dros y tair blynedd ddiwethaf wedi ei wneud ar sail cyngor gan filfeddygon a ddaeth i’r casgliad bod cyflwr y cŵn yn effeithio ansawdd eu bywydau.”

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn bod ganddyn nhw bolisi clir ynglŷn â chŵn milwrol a’u bod yn gwneud pob ymdrech posib i ail-gartrefu cŵn sydd wedi bod yn gwasanaethu’r fyddin. Ychwanegodd bod tîm o filfeddygon arbenigol wedi eu lleoli ym Mhrydain, Yr Almaen ac Afghanistan i sicrhau bod cŵn milwrol yn derbyn y gofal gorau posib.