Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones wedi galw am setliad datganoli cadarn ac yn dweud bod angen diweddu dull “gwasgarog” datganoli.

Mewn araith yng Nghaerdydd heddiw dywedodd Prif Weinidog Cymru bod angen i ddatganoli symud tuag at setliad mwy cadarn.

Ychwanegodd ei fod yn credu y dylai bod cyfansoddiad newydd ar gyfer y DU fyddai o blaid datganoli.

“Os yw’n gwneud synnwyr i wneud penderfyniad yng Nghymru, yna dylid gwneud hynny yng Nghymru,” meddai Carwyn Jones mewn araith yng Nghaerdydd heddiw.

Dywedodd hefyd ei fod yn gobeithio y byddai’r Alban yn pleidleisio o blaid aros yn y DU pan fydd y refferendwm ar annibyniaeth yn cael ei gynnal yno ymhen blwyddyn.

‘Llai o broses a mwy o ddigwyddiad’

Yn hytrach, byddai’n well gan Brif Weinidog Cymru weld ymrwymiad gwirioneddol i ddatganoli gan Lywodraeth y DU a fyddai’n cynnig dewis arall yn hytrach na chwalu’r Deyrnas Unedig.

Dywedodd y byddai gweithredu argymhellion y Comisiwn Silk yn llawn ar ddatganoli trethi a phwerau benthyca i Gymru yn rhoi arwydd clir o hyn.

Yn ei araith yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd heddiw, dywedodd Carwyn Jones:

“Yn fy marn i mae bod o blaid datganoli yn elfen hanfodol o’r athroniaeth fodern o blaid Undeb. Mae datganoli yng Nghymru yn un o ffeithiau bywyd. Mae’n cael cefnogaeth eang y cyhoedd, fel y gwelwyd yng nghanlyniad refferendwm 2011.

“Dros y pymtheng mlynedd ddiwethaf, dro ar ôl tro rydyn ni wedi gweld rhyw botsian yma ac acw gyda’r cyfansoddiad. Rwyf am weld diwedd ar hyn. Mae angen inni wneud datganoli’n llai o broses ac yn fwy o ddigwyddiad.”

Diwygiadau

Ychwanegodd: “Unwaith y bydd refferendwm yr Alban allan o’r ffordd, rwyf am weld diwygiadau sy’n ategu ei gilydd, diwygiadau sydd, gyda’i gilydd, yn creu’r cyfansoddiad cydlynol sy’n ddiffygiol o fewn y DU ar hyn o bryd.

“Yn y pen draw mae agwedd elyniaethus tuag at ddiwygio’n cryfhau’r rhai sy’n dadlau nad yw’r DU yn gallu newid; mae’n gwthio pobl tuag at ddewis polareiddio rhwng status quo sydd heb ei ddiwygio a’r llwybr llithrig at ymwahaniaeth. Mae’n rhaid inni osgoi ffug ddewisiadau o’r fath.”