Non Stanford
Mae Non Stanford wedi cipio pencampwriaeth triathlon merched y byd yn Llundain heddiw.

Gorffennodd y Gymraes 24 oed o Abertawe y ras mewn dwy awr, un munud a 32 eiliad i ennill ei hail ras gyfres y tymor yma, gan orffen 25 eiliad o flaen y Wyddeles Aileen Reid a ddaeth yn ail, ac Emma Moffatt o Awstralia a ddaeth yn drydydd.

Hi yw’r ferch gyntaf i ennill Pencampriaeth Byd yn y flwyddyn ar ôl ennill y Bencampwriaeth Byd o dan 23 oed.

“Alla i ddim credu fy mod i’n bencampwr byd â dweud y gwir,” meddai yn union ar ôl y ras. “Mae’r holl waith caled dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn werth yr ymdrech.”