Wrecsam 2–0 Luton

Daeth rhediad gwael Wrecsam yn Uwch Gynghrair Skrill i ben gyda buddugoliaeth yn erbyn Luton ar y Cae Ras nos Wener.

Hon oedd ail fuddugoliaeth y Dreigiau yn unig y tymor hwn, a’r gyntaf ers diwrnod cyntaf y tymor.

Roedd y tîm cartref ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf diolch i ergyd droed dde Andy Bishop, ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.

Dyblodd Wrecsam eu mantais toc cyn yr awr. Daeth Brett Ormerod o hyd i Johnny Hunt yn y cwrt cosbi a pheniodd yntau i gefn y rhwyd.

Gorffennodd Luton y gêm gyda deg dyn wedi i Alex Wall dderbyn coch am drosedd ar Neil Ashton, lai nag ugain munud wedi iddo ddod i’r cae fel eilydd.

Mae’r canlyniad yn codi Wrecsam i’r ail safle ar bymtheg yn nhabl y Gyngres wedi wyth gêm.

.

Wrecsam

Tîm: Mayebi, Wright (Ntame 46′), Ashton, Tomassen, Artell, Clarke, Harris, Hunt, Theo Bailey-Jones (Cieslewicz 72′), Bishop, Ormerod

Goliau: Bishop 21’, Hunt 58’

Cerdyn Melyn: Tomassen 37’

.

Luton

Tîm: Tyler, McNulty, Howells (Gray 72′), Griffiths, Parry, Henry, Smith, Guttridge, Whalley (Lawless 61′), Cullen (Wall 61′), Benson

Cardiau Melyn: Smith 62’, Henry 78’, Parry 83’

Cerdyn Coch: Wall 80’

.

Torf: 3,122