Gleision Caerdydd 21–10 Connacht

Cafodd y Gleision ddechrau da ar gae bob tywydd newydd Parc yr Arfau gyda byddugoliaeth yn erbyn Connacht yn y RaboDirect Pro12 nos Wener.

Roedd hi’n bell o fod yn glasur ar noson wlyb yng Nghaerdydd ond roedd cicio cywir Rhys Patchell yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i’r tîm cartref yn erbyn y Gwyddelod. Sgoriodd y maswr un gôl adlam a chwe chic gosb.

Wnaeth o ddim dechrau’n wych serch hynny gan fethu gyda’i ddau gynnig cyntaf. Connacht yn hytrach a gafodd y sgôr gyntaf wrth i’r asgellwr, Matt Healy, groesi am unig gais gêm wedi deuddeg munud.

Ymatebodd Patchell gyda dwy gic gosb ac yna gôl adlam i roi’r Gleision ar y blaen ond cyn faswr y rhanbarth o Gymru a gafodd y gair olaf cyn yr egwyl, wrth i Dan Parks, bellach yn ei ail dymor yng ngwyrdd Connacht, drosi cic gosb i roi’r Gwyddelod yn ôl bwynt ar y blaen, 9-10 ar hanner amser.

Methodd yr ymwelwyr ag ychwanegu at eu cyfanswm yn yr ail hanner ond nid felly y Gleision a Patchell. Llwyddodd gyda phedair cic gosb arall yn yr ail gyfnod i sicrhau buddugoliaeth o 21-10 i’r tîm cartref.

.

Gleision

Ciciau Cosb: Rhys Patchell 20’, 26’, 52’, 67’, 74’,78’

Gôl Adlam: Rhys Patchell 33’

.

Connacht

Cais: Matt Healy 12’

Trosiad: Dan Parks 13’

Cic Gosb: Dan Parks 40’

Cerdyn Melyn: Rodney Ah You 76’