Caeredin 16–13 Dreigiau Casnewydd Gwent
Cael eu curo gan gic olaf y gêm oedd hanes y Dreigiau yn erbyn Caeredin ym Murrayfield nos Wener.
Roedd hi’n ymddangos fod y gêm rhwng y ddau dîm yn y RaboDirect Pro12 yn mynd i orffen yn gyfartal, ond llwyddodd Harry Leonard gyda chic gosb yn yr eiliadau olaf i sicrhau buddugoliaeth fain i’r Albanwyr.
Cafodd y Dreigiau ddechrau da i’r hanner cyntaf gyda Jason Tovey yn trosi pwyntiau cyntaf y gêm wedi dim ond tri munud. Ond gwaethygu wnaeth pethau i’r ymwelwyr wedi hynny wrth i Harry Leonard lwyddo gyda dwy gic i roi’r fantais i Gaeredin ac wrth i Lewis Evans orffen yr hanner yn y gell gosb yn dilyn cerdyn melyn.
Aeth Caeredin ym mhellach ar y blaen wedi saith munud o’r ail gyfnod wrth i Tim Visser groesi am gais da yn dilyn dadlwythiad gwych David Denton, 13-3 wedi trosiad Leonard.
Wnaeth y Dreigiau ddim rhoi’r ffidl yn y to ac roeddynt o fewn un sgôr yn fuan wedyn yn dilyn cais Richie Rees yn erbyn ei gyn glwb a throsiad Tovey.
Gadawodd Tovey’r cae yn fuan wedi hynny a’r eilydd faswr, Kris Burton, a unionodd y sgôr gyda chic gosb bum munud o’r diwedd.
Ond roedd yr Albanwyr wedi bod yn gryfach na’r Dreigiau yn y sgrym trwy gydol y nos ac fe orfodwyd un cic gosb olaf yn eiliadau olaf y gêm. Trosodd Leonard honno i ennill yr ornest o drwch blewyn i’w dîm.
.
Caeredin
Cais: Tim Visser 47’
Trosiad: Harry Leonard 47’
Ciciau Cosb: Harry Leonard 5’, 20’ 80’
.
Dreigiau
Cais: Richie Rees 53’
Trosiad: Jason Tovey 53’
Ciciau Cosb: Jason Tovey 3’, Kris Burton 75’
Cerdyn Melyn: Lewis Evans 37’