Nos Lun fe fydd Abertawe yn croesawu Lerpwl i Stadiwm y Liberty.

Bydd gan reolwr Abertawe, Michael Laudrup mwy neu lai garfan lawn i ddewis ohoni.  Dim ond yr amddiffynnwr Neil Taylor fydd yn absennol, a hynny oherwydd anaf i’w glun.

Mae’n debyg bydd cylfe i chwaraewr newydd yr Elyrch Alvaro Vazquez  ddechrau i’r Elyrch, tra bydd y chwaraewr canol cae Jonjo Shelvey yn dychwelyd wedi iddo wella o’i anaf i’w glun.

Bydd yna ddigon o gefnogaeth i’r Elyrch yn Stadiwm y Liberty gan fod pob tocyn wedi ei werthu.