Mae chwaraewr-reolwr Wrecsam Andy Morrell yn gobeithio y gall ei dîm gipio’r fuddugoliaeth yn erbyn Luton Town heno wrth i rai chwaraewyr adnabyddus ddychwelyd yn ôl i’r Cae Ras.

Bydd Stephen Wright a Jay Harris yn dychwelyd i’r garfan ynghyd â David Artell a Mark Carrington sydd wedi arwyddo cytundebau newydd yr wythnos yma i geisio rhoi hwb i’r Dreigiau.

Meddai Andy Morrell: ‘‘Mae Stephen Wright wedi ymarfer trwy gydol yr wythnos yn ogystal â Jay Harris sydd yn ôl o’i waharddiad, ac mae Rob Ogleby wedi dychwelyd o’i ddyletswydd rhyngwladol.  Bydd y chwaraewr yma yn ychwanegu llawer mwy o brofiad i’r garfan a fydd yn allweddol i ni.”

Wedi colli tair gêm yn olynol ac heb sgorio gôl, mae hyn yn peri gofid i’r rheolwr-chwaraewr.

‘‘Rydym wedi gwneud ychydig o waith gyda’r bechgyn heddiw a byddwn yn dewis y chwaraewyr fydd yn rhoi’r cyfle gorau bosibl i ni sgorio.  Wrth gwrs, byddwn yn benderfynol o gipio’r fuddugoliaeth ond byddwn yn ddigon hapus â phwynt.”