Nos yfory fe fydd y Scarlets yn croesawu Treviso i Barc y Scarlets, a theg dweud y bydd croeso cynnes yn aros am Jonathan Davies.
Bydd y canolwr a ddisgleiriodd yn nghrys y Llewod dros yr Haf, yn eistedd ymhlith yr eilyddion.
Ac mae hyfforddwr y blaenwyr yn disgwyl gêm galed, er yn pwysleisio fod y darnau gosod wedi bod yn solet yn erbyn Leinster yng ngêm ddiwetha’r Scarlets.
‘‘Mi fydd hi’n her, yn enwedig gyda’r blaenwyr, ond rwy’n falch yn ein perfformiad yn yr hanner cyntaf yn erbyn blaenwyr profiadol Leinster,” meddai Danny Wilson.
“Roeddwn yn hapus iawn gyda’r sgrym â’r llinell, o ran safbwynt y blaenwyr roedd hi’n ddechreuad da i’r tymor.”
Dim ond un newid sydd i’r garfan heriodd Leinster yr wythnos diwethaf ym Mharc y Scarlets. Jordan Williams fydd ar yr asgell yn lle Kristian Phillips sydd wedi derbyn anaf i’w law.
Yn ogystal â Phillips, ni fydd y blaenwr John Barclay, y canolwr Gareth Maule na’r mewnwr Rhodri Williams ar gael i chwarae nos yfory oherwydd anafiadau.
Mi fydd y gêm yn fyw ar S4C am chwech.
Tîm y Scarlets
Olwyr – Gareth Owen, Liam Williams, Scott Williams, Steven Shingler, Jordan Williams, Rhys Priestland a Gareth Davies
Blaenwyr – Phil John, Ken Owens, Samson Lee, George Earle, Jo Snyman, Aaron Shingler, Josh Turnbull a Rob McCusker (Capten).
Eilyddion – Emyr Phillips, Rob Evans, Deacon Manu, Jake Ball, Sione Timani, Aled Davies, Jonathan Davies a Nick Reynolds.