Bydd dau o bencampwyr beicio enwocaf y byd yn ymweld â’r gogledd yr wythnos nesaf wrth i ras bwysicaf Prydain ddod i Lanberis yng Ngwynedd.
Ymysg y cystadleuwyr a fydd yn tyrru i’r pentref bach wrth droed Yr Wyddfa fydd Syr Bradley Wiggins a Mark Cavendish, dau sy’n enwog am eu perfformiadau yn y Gemau Olympaidd a’r Tour de France.
Bydd pedwerydd cymal ras y Tour of Britain yn diweddu yn Llanberis ddydd Mercher nesaf, wrth i’r beicwyr deithio dros y ffin o Stoke on Trent.
Dyma’r tro cyntaf i ras y Tour of Britain ymweld â Gwynedd ac mae’r trefnwyr yn disgwyl niferoedd helaeth ym mhentref Llanberis i wylio’r cymal olaf.
Mae disgwyl i’r beicwyr gyrraedd Llanberis am 3.45 brynhawn Mercher ar ôl gadael Stoke on Trent am 11.00 y bore.
Ynghyd â chroesawu Syr Bradley Wiggins a Mark Cavendish, bydd llu o weithgareddau amrywiol yn cael eu cynnal trwy gydol y dydd, gan gynnwys rasus beiciau i ddisgyblion ysgolion lleol.
Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â’r ras ar gael o wefan www.thetour.co.uk.