Nos yfory fe fydd y Gweilch yn herio Leinster yn Stadiwm RDS.
Bydd y clo rhyngwladol Ian Evans yn dychwelyd yn ôl i’r rhanbarth. Ond ni fydd Ryan Jones yn rhan o’r garfan wedi iddo anafu ei ysgwydd yn erbyn Treviso yr wythnos ddiwethaf.
Wedi saib o chwe mis oherwydd anaf i’w ysgwydd, cafodd Ryan Jones anaf boenus i’w ysgwydd yn Stadio Monigo ac roedd pryderon y byddai’n colli cyfnod hir o weddill y tymor. Ond nawr mae Jones yn obeithiol y bydd yn rhan o’r tîm fydd yn herio Caeredin yr wythnos nesaf.
‘‘Roedd Ryan wedi derbyn anaf i’w ysgwydd, ond does dim eisiau poeni yn ormodol. Ni fydd yn chwarae nos yfory ond rydym yn gobeithio y bydd ar gael ar gyfer yr wythnos nesaf,’’ meddai Chris Gibbes, hyfforddwr y blaenwyr.
Yn ogystal ag Ian Evans, mae disgwyl i’r Llewod eraill Adam Jones a Richard Hibbard chwarae rhan o’r gêm.
‘‘Rydym wedi trafod ymhlith ein gilydd am y chwaraewyr yma, rydym yn gwybod eu bod wedi chwarae llawer o rygbi yn ystod yr haf. Mae’n rhaid gwneud yn siwr eu bod nhw’n holliach cyn chwarae,’’ ychwanegodd Gibbes.