Yfory fe fydd Caerdydd yn herio Hull City yn Stadiwm KC.
Bydd yr Adar Gleision yn siwr o dargedu’r gêm fel un sydd yn rhaid i’w hennill os am aros yn yr Uwch Gynghrair, ond mae rheolwr Caerdydd wedi dweud y bydd yn her i gipio’r triphwynt yno.
‘‘Dydw i ddim yn ei weld fel y fath yna o gêm, ond mi fydd hi’n her anodd i ni,” Malky Mackay. “Byddai pawb wedi dweud mae’r gêm yn erbyn Manchester City oedd y gêm anoddach, ond fe enillon ni. Y gêm nesaf yw’r un bwysicaf o hyd i mi yn bersonol.”
Mae yna amheuon ynglŷn â gôl-geidwad Caerdydd, David Marshall wedi iddo dderbyn anaf i’w glun tra’n chwarae i’r Alban yn erbyn Macedonia nos Fawrth. Mae’n annhebygol y bydd y gŵr o Ddenmarc, Andreas Cornelius yn rhan o garfan yr Adar Gleision wrth iddo ddal i ddioddef ag anaf i’w bigwrn.
Disgwylir i’r ymosodwr newydd, Peter Odemwingie, fod yn rhan o gynlluniau Malky Mackay, ond mae’n debygol y bydd ymhlith yr eilyddion.