Mae Undeb y Frigâd Dân yn rhybuddio bod streic gan ymladdwyr tân yn ‘anochel’ yn sgil anghydfod ynghylch pensiynau yng Nghymru a Lloegr.
Dywed yr Undeb fod y llywodraethau yng Nghaerdydd a Llundain wedi ‘gwrthod cyfaddawdu’ ac y bydd streic yn cael ei chyhoeddi’n fuan.
Meddai Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Frigâd Dân, Matt Wrack:
“O ganlyniad i lywodraethau yn San Steffan a Chaerdydd yn gwrthod gweld synnwyr ar bensiynau ymladdwyr tân, mae’n ymddangos bellach fod streic yn anochel yng Nghymru a Lloegr.
“Fe wnaeth bron i 80% o ymladdwyr tân bleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol os na fydd cynnydd yn cael ei wneud, ond rydym wedi trio popeth i osgoi’r angen am streic.
“Dyw hi ddim yn rhy hwyr i osgoi streic: rhaid i lywodraethau Cymru a Lloegr roi diogelwch yn gyntaf a dod yn ôl i’r bwrdd trafod yn barod i gyfaddawdu.”
Ar y llaw arall, dywedodd ei fod yn obeithiol y gellir dod i gytundeb yn yr Alban ac osgoi streic, a chanmolodd barodrwydd Llywodraeth yr Alban i gyd-drafod â’r undeb.