Llys Ynadon Abertawe
Mae dyn 21 oed wedi ymddangos gerbron ynadon Abertawe ar gyhuddiadau o ymosod ar ŵr a gwraig ac o ddifrodi mosg.

Roedd Steven John Davies o Tonna, ger Castell Nedd, wedi cael ei arestio ar ôl digwyddiad yng nghanolfan Islamaidd St Anne’s yn Tonna yn oriau mân bore ddoe.

Dywedodd yr erlynydd Sian Vaughan fod Davies wedi malu ffenest yn y mosg ac wedyn wedi ymosod ar wraig leol 44 oed, Melanie Thomas, ac ar ei gŵr, Kevin Thomas, 48 oed.

Mae’n wynebu cyhuddiad o ddifrodi troseddol ar sail hil, achosi niwed corfforol ar sail hil ac o ymosod trwy guro.

Ni phlediodd y diffynnydd ac ni wnaeth ei gyfreithiwr gais am fechnïaeth.

Fe wnaeth yr ynadon drosglwyddo’r achos i Lys y Goron Abertawe, lle bydd Davies yn ymddangos ar 24 Medi.

Ail ymosodiad o fewn mis

Ddoe oedd yr ail waith o fewn ychydig dros fis i ffenestri gael eu malu yn y ganolfan Islamaidd yn Tonna.

Dywedodd yr Aelod Seneddol lleol Peter Hain ei fod yn ffieiddio at y digwyddiadau.

“Mae Tonna, pentref tawel gydag enw da am ofal cymdogol a goddefgarwch, wedi cael ei ysgwyd hyd at ei sail,” meddai.

“Mae’n staen cywilyddus a hyll ar y gymuned leol. Wnawn ni ddim goddef Islamoffobia na hiliaeth yn ein cymunedau.”