Mae cwmni archfarchnad Sainsbury’s wedi tynnu holl hunan-gynnyrch berwr dŵr (water cress) y cwmni oddi ar y silffoedd, yn dilyn achosion o’r gwenwyn bwyd e-coli sydd wedi heintio 18 o bobl, pedwar ohonyn nhw yng Nghymru.

Cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth golwg360 bod yr achosion sydd wedi effeithio pobl yng Nghymru, wedi eu lleoli yn y de, yn benodol yn Sir Gaerfyrddin, Gwent a Phen y Bont.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi gofyn i Sainsbury’s adalw berw dŵr y cwmni sydd hefyd yn cynnwys rhai cynnyrch salad.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr fod rhai o’r bobl sydd wedi eu heintio gydag e-coli wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty ar ôl mynd yn sâl, a’i bod yn ymddangos ar hyn o bryd fod yr haint yn gysylltiedig â berw dŵr.

Ond dywedodd llefarydd Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth golwg360 nad oes unrhyw un yng Nghymru wedi gorfod mynd i’r ysbyty yn sgîl e-coli a’u bod yn ymchwilio i darddiad penodol yr haint.

“Rydym yn parhau i ymchwilio i’r achosion yma ac yn cynghori unrhyw un sydd yn bryderus neu sydd â’r dolydd rhydd am fwy na 48 awr, i gysylltu â’u meddyg.”

Dywedodd llefarydd ar ran Sainsbury’s: “Mae diogelwch ein cwsmeriaid a safon ein cynnyrch yn flaenoriaeth i ni ac felly, er nad oes trywydd o haint wedi ei ganfod yn ein cynnyrch, rydym wedi adalw chwech math o salad yn cynnwys berw dŵr o’r cyflenwyr dan sylw.”